Ymgyrch Checkout Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Fe ddyfeisiodd WWPR ymgyrch gan dargedu'r gynulleidfa hon trwy eu harchfarchnadoedd lleol a'u hannog i siarad rhywfaint o Gymraeg wrth dalu wrth y til. Perswadiodd y tîm ASDA, Tesco a'r Co-operative i groesawu digwyddiadau hybu ‘Checkout Cymraeg' yn eu siopau, a bu mewn cysylltiad â chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion ranbarthol i nodi lleoliadau priodol ar gyfer y digwyddiadau hyn. Cynhaliwyd 18 o ddigwyddiadau i gyd ym mis Mawrth 2008.
Bu WWPR yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu deunydd marchnata perthnasol, gan gynnwys bagiau siopa cotwm eco-gyfeillgar, cylchau allwedd trolïau archfarchnadoedd, sticeri ac, yn anad dim, cardiau procio'r cof yn cynnwys ymadroddion Cymraeg i siopwyr eu defnyddio. Rhoddwyd briff llawn i bob rheolwr siop a'r cynorthwywyr oedd yn cymryd rhan wrth y tiliau.
Dosbarthwyd swigod siarad mawr â'r geiriau ‘Checkout Cymraeg' i'r holl siopau a oedd yn cymryd rhan ar gyfer ffotograffau creadigol, a threfnwyd cyfweliadau â'r cyfryngau yn y siopau amrywiol ar gyfer staff archfarchnadoedd, siopwyr a gweinidogion y Llywodraeth, boed ar y safle neu mewn stiwdios. Perswadiwyd rhai newyddiadurwyr di-Gymraeg i gymryd rhan yn yr ymarfer ac adrodd ar eu profiad.
O ganlyniad, cafwyd sylw helaeth yn y cyfryngau darlledu, print ac ar-lein gydol yr wythnos mewn llawer o wahanol ardaloedd o Gymru, ac yn ei dro arweiniodd hyn at y canolfannau Cymraeg i oedolion yn casglu manylion ar nifer sylweddol o bobl a oedd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer cyrsiau Cymraeg.
Meddai uwch swyddog cyfathrebu Llywodraeth Cynulliad Cymru, Elen King:
"Roedd yr ymgyrch Checkout Cymraeg yn ffordd hynod lwyddiannus ac arloesol o dargedu ein cynulleidfaoedd allweddol. Fe fachodd sylw llu o'r cyfryngau print a darlledu, ac o ganlyniad dangosodd nifer fawr o bobl ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg."
Meddai Ceryl Davies, Golygydd Newyddion yn Radio Ceredigion:
"Roedd yr ymgyrch Checkout Cymraeg yn syniad wirioneddol arloesol. Rhoddodd Working Word PR wybodaeth gynhwysfawr i'n tîm newyddion am yr ymgyrch yn ein hardal leol. Gwnaeth eu ffordd effeithiol o weithredu argraff fawr arna' i, yn ogystal â'r ffaith iddyn nhw ddarparu rhywun dwyieithog a gwybodus inni ei gyfweld ar gyfer fy sioe radio."
Enillodd yr ymgyrch wobr Aur Gwobrau PRide CIPR Cymru yn 2008.








