Creu cysylltiadau gyda merched Cymru ar-lein

Brîff

O fis Chwefror 2010, roedd Chwarae Teg, s ef yr asiantaeth datblygu economaidd dros ferched, am godi ymwybyddiaeth o’i phrosiect ‘Agile Nation’ a ariannwyd gan Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac sy’n werth £12 miliwn. Mae’n brosiect sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhyw yn y gweithle trwy hyfforddi merched a rhoi cefnogaeth i gyflogwyr i weithredu mesurau gwaith hyblyg.


Roedd Chwarae Teg eisiau dangos ei pherthnasedd i ferched cyffredin a recriwtio cyfranogwyr posib. Fel sefydliad elusennol, roedd angen datrysiad cost-effeithiol y gellid ei roi ar waith yn gyflym a chreu’r argraff fwyaf bosib.

Gweithrediadau

Dyfeisiodd y tîm ymgyrch oedd wedi’i gynllunio i ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth yn Agile Nation gan ddefnyddio cyfres gyfatebol o sianelau digidol.

Amcan yr ymgyrch gyfryngol hon oedd cychwyn trafodaeth ar-lein ymysg merched am yr hyn oedd yn eu hysbrydoli yn eu bywydau o ddydd i ddydd a chydio yn eu dychymyg gan hyrwyddo Agile Nation fel prosiect fyddai’n galluogi merched i gyflawni eu potensial. Uchafbwynt yr ymgyrch fyddai digwyddiad ar gyfer 200 o ferched ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (IWD), y byddid modd ei fwynhau ar-lein os nad oedd yn bosib mynychu’r digwyddiad. Fel rhan o’r digwyddiad cafwyd sgyrsiau gan siaradwyr ysbrydoledig gan gynnwys y fabolgampwraig Tessa Sanderson OBE a Phrifweithredwr Gocompare.com, Hayley Parsons.

Seiliwyd cysyniad yr ymgyrch -‘Womenspire’ - ar ferched yn ysbrydoli merched eraill ac yn eu tro’n eu hysbrydoli ei hunain, gan gysylltu hyn â chymhelliant, cyraeddiadau a hunan-welliant.

Dyfeisiodd WWPR ‘ap’ ffôn deallus gwreiddiol rhad ac am ddim sy’n galluogi merched i ddarllen cannoedd o ddyfyniadau ysbrydoliaethol gan ferched enwog, o Marilyn Monroe i Mo Mowlam, ac i bostio’u straeon ysbrydoledig eu hunain ar wefan Agile Nation wrth wasgu botwm.


Crëwyd proffil Twitter, grŵp Facebook, grŵp Linked-in ac adran arbennig ar wefan Agile Nation ble anogwyd merched i rannu’r hyn sy’n eu hysbrydoli nhw. Sefydlwyd cynulleidfaoedd trwy ddefnyddio ymchwil a rhyngweithiadau, a phostiwyd cynnwys yn rheolaidd ar bob safle i annog rhyngweithio.

Cafwyd sylw gan y wasg ynglŷn â lansiad yr ‘ap’ er mwyn denu pobl at yr ymgyrch a’u gyrru at sianelau rhwydweithio cymdeithasol.

Cafodd digwyddiad ‘Womenspire’ ei ‘dwîtio’ yn y fan a’r lle gyda sylwadau gan siaradwyr yn cael eu crynhoi i ‘dwîts’ cyson ar rîl. Canlyniad hyn oedd bod nifer o ferched yn danfon ‘twîts’ brwdfrydig ynglŷn â’u  mwynhad o’r siaradwyr ar waetha’r ffaith nad oeddent yno. Ffilmiwyd y digwyddiad a throsglwyddwyd y fideos i YouTube/Vimeo ar fyrder.

Canlyniadau

Dyblodd y nifer o ergydion gwe i www.agilenation.co.uk yn ystod mis Mawrth 2010, a chafwyd cynnydd yn nifer yr ymholiadau i’r tîm prosiect. O ganlyniad uniongyrchol i’r ymgyrch, gofynnwyd i gyfarwyddwr masnachol Chwarae Teg gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb byw ar y we gyda Guardian Careers oedd yn trafod gweithio hyblyg. Cafodd ein Cyfarwyddwr Cyfrif, Sara Robinson, hefyd wahoddiad i ymddangos ar raglen wleidyddiaeth byw BBC One Wales, ‘Dragon’s Eye’, i drafod sut y gwnaeth Chwarae Teg ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol i gysylltu â merched.

Peidiwch â chymryd ein gair ni…

Meddai John Jackson, Rheolwr Marchnata Chwarae Teg:

"Trwy ddefnyddio technoleg a sianeli cyfathrebu newydd, mae Working Word wedi ein helpu i godi ymwybyddiaeth a diddordeb yn ein prosiect Agile Nation. Hefyd, yn hanfodol, mae wedi caniatáu i ni ddechrau newid y ddelwedd sydd gan Chwarae Teg. Cyn hyn, ystyrid ni i fod yn uchel ael, ac mae’r ymgyrch hon wedi helpu newid ein safle i fod yn asiantaeth sy’n berthnasol i ferched sy’n gweithio, ac sy’n cynnig datrysiadau ymarferol i’w helpu i gyflawni eu potensial. Roedd hygyrchedd cysyniad ‘Womenspire’ yn gweddu i’r dim ac rydym yn falch dros ben o natur arloesol yr ymgyrch.”  

 

womenspire