Connaught Compliance: Rhoi grym newydd y farchnad ar y map

Brîff

Cyflogwyd WWPR gan gwmni FTSE 250, Connaught plc, i ddarparu PR strategol a fyddai’n codi ymwybyddiaeth am Connaught Compliance, brand newydd ym marchnad gystadleuol a rhanedig rheoli risg, iechyd a diogelwch.

Roedd hyn yn cynnwys codi proffil Connaught trwy sicrhau sylw ‘arweiniad meddylfryd’ mewn cyhoeddiadau a ddarllenir gan arweinwyr o fewn y sectorau targed yn gyson.

Gweithrediadau

Dyfeisiwyd ymgyrch cysylltiadau cyfryngau cynhwysfawr wedi ei hanelu at weisg arbenigol o fewn y marchnadoedd targed.

Ymchwiliodd y tîm ddyddiadau/ddigwyddiadau allweddol, gan gynnwys deddfwriaethau newydd a dathliadau pen blwydd, a allai ymddwyn fel llwyfan i lefarwyr Connaught wneud cyfraniad yn y cyfryngau.  Targedwyd newyddiadurwyr papur newydd sy’n ysgrifennu ar iechyd a diogelwch ac achosion yn y gweithle er mwyn dangos Connaught fel sylwebwyr arbenigol.

Daeth llwyddiant yr ymgyrch o sicrhau sylw’r cyhoeddiadau masnachol blaenllaw yn sgil gallu’r tîm i adnabod ac ymateb yn gyflym i faterion fyddai’n berthnasol i Connaught Compliance a’i farchnadoedd, gan eu trawsnewid i fod yn gyfleoedd i greu erthyglau a chyfweliadau a thrwy hyn amlygu safle Connaught fel arbenigwyr.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ’roedd y materion hyn yn rai nad oedd eu cystadleuwyr wedi sylwebu arnyn nhw yn y cyfryngau hyd hynny, gan roi cyfle i Connaught ennill y blaen o ran cyfran y sylw a dderbyniai.

Ategwyd hyn oll gan wasanaeth ymatebol swyddfa’r wasg a weithredai er amddiffyn enw da’r cwmni pan fyddai mewn perygl o gael sylw negyddol.

Canlyniadau

Dros gyfnod o ddeng mis llwyddodd Connaught Compliance i gael llawer iawn o sylw gan wasg arbenigol yn y DU a chan y papurau cenedlaethol.  Soniwyd am y cwmni yn The Guardian, The Telegraph a chylchgrawn Accountancy, y rhain oll wedi eu clustnodi fel cyhoeddiadau a ddarllenir gan arweinwyr perthnasol yn y maes.

Ymddangosodd 80 erthygl, a chafodd 21 miliwn o bobl gyfle i ddarllen neu glywed am Connaught Compliance.

Derbyniodd y cleient sylw hysbysebu gwerth dros £420,000 a gwerth PR o £1.2m gan greu enillion o 32:1 ar fuddsoddiad.

Peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig…

Meddai Jo Tooze, Cyfarwyddwr Marchnata Connaught Compliance:

“Fel grym newydd yn y farchnad gydsyniad ’roeddem yn awyddus i greu argraff ddofn yn ystod ein blwyddyn gyntaf.  Roedd sefydlu presenoldeb cryf i ni ein hunain yn y cyfryngau’n rhan hanfodol o hyn.

 “’Rydym wedi ein plesio’n arw gyda safon ac ansawdd y sylw a gafwyd yn y cyfryngau, sydd wedi ychwanegu at werth ein gweithgarwch marchnata ehangach ac wedi helpu codi ymwybyddiaeth o’n brand.  Mae’r sylw hyn yn y cyfryngau’n helpu atgyfnerthu ffyddlondeb ein cwsmeriaid presennol yn ogystal â hysbysu’r gwasanaeth arloesol yr ydym yn ei gynnig i farchnad ehangach.” 

Connaught Compliance

     Connaught Compliance

Connaught Compliance