Charlotte Church yn dangos i famau Cymru pam mai bwydo o’r fron sydd orau.
BrîffDengys ymchwil fod mamau ifanc yn llai tebygol o fwydo eu babanod ar y fron na mamau dros 30. Mewn ymdrech i geisio datrys y bwlch yma rhwng y cenedlaethau, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n awyddus i gynnal ymgyrch cysylltiadau cyfryngau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Bwydo ar y Fron i hyrwyddo buddiannau bwydo ar y fron ymysg mamau ifanc. GweithrediadauCawsom gefnogaeth y fam ifanc, Charlotte Church, a gytunodd i fynychu’r lansiad a bod yn ‘wyneb’ i’r ymgyrch. ‘Roedd cael ei chefnogaeth hi - mam ifanc enwog a’i hadwaenid gynt am fwynhau nosweithiau allan meddwol - yn ardystiad perffaith i’r ymgyrch gan ffigwr enwog y gallai’r mamau ifanc uniaethu â hi. Trwy danategu’r gefnogaeth gan berson enwog gyda straeon mamau cyffredin yn y rhanbarthau cafwyd dau ogwydd i’r ymgyrch. Roedd hyn yn ein galluogi i hawlio sylw ym mhob un o’r cyfryngau targed allweddol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda mamau ifanc oedd yn mynd yn groes i’r duedd trwy fwydo ar y fron, er mwyn cynyddu’r sylw yn y cyfryngau lleol a rhanbarthol. Mewn ardaloedd ble nad oedd astudiaethau achos ar gael, ysgrifennwyd llythyr at y golygydd gan awdur rhith ar ran Charlotte Church a gyflwynwyd i’r wasg ac a oedd yn cynnwys negeseuon allweddol yr ymgyrch. Aethom at olygyddion iechyd y cyhoeddiadau targed allweddol a gwerthwyd erthyglau nodwedd iddynt. Trefnwyd digwyddiad lansio – oedd yn cynnwys sesiwn tynnu lluniau a chynhadledd i’r wasg swyddogol gyda Charlotte Church a mamau ifanc eraill oedd yn bwydo o’r fron – ym Mae Caerdydd.
CanlyniadauCafwyd 515 darn yn ymdrin â’r stori gan gynnwys yn y Sunday Mirror, The Times, Daily Star, Metro yn ogystal â thaeniad lluniau dwy dudalen yng nghylchgrawn Hello. Mynychodd dros 30 o newyddiadurwyr a ffotograffwyr y lansiad yng Nghaerdydd, gyda chynrychiolwyr o’r Press Association, The Daily Mirror a Getty Images yn eu plith. Cafodd yr hanes hefyd ei ddangos ar dudalen hafan BBC news, Sky News a’r Sun Online yn ogystal ag ar nifer o wefannau magu plant a chlebran cyn belled i ffwrdd ag India ac America. Ymhellach, sicrhawyd ysgrifau nodwedd mewn cylchgronnau ‘glossy’ a magu plant. Dylid nodi bod pob papur newydd lleol yng Nghymru wedi rhoi sylw i’r ymgyrch. ‘Roedd sylw’r wasg yn ystod y lansiad yn gyfwerth â thros £500,000 o fodfeddi colofn, sef enillion o hanner can plyg ar fuddsoddiad. Crybwyllwyd y cleient yn 70% o’r ymdriniaethau hyn. Trwy’r cyfryngau print a darlledu crëwyd dros 37 miliwn o gyfleoedd i weld a chlywed negeseuon allweddol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Bwydo Ar y Fron. Dim ond bob 5 mlynedd y caiff cyfraddau bwydo ar y fron eu mesur. Fodd bynnag, nododd cydlynydd blaenllaw yn y GIG fod “cynnydd nodedig mewn diddordeb ac ymwybyddiaeth o fuddiannau bwydo ar y fron” ymysg y mamau ifanc y cyfarfu â hwy o ganlyniad uniongyrchol i’r ymgyrch cyfryngau. Peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig Meddai Susan Sky, Cydlynydd Bwydo Babanod Cymru yn Llywodraeth Cynulliad Cymru: “Paratôdd Working Word PR gronfa o astudiaethau achos ysbrydoledig oedd yn gysylltiedig â chefnogaeth Charlotte Church i’r ymgyrch, ac arweiniodd hyn at fwy o sylw yn y wasg, teledu a radio na chafwyd erioed o’r blaen. Mae’r ymateb i’r ymgyrch wedi bod yn gadarnhaol dros ben gan rieni a chan weithwyr iechyd proffesiynol. Ni fyddai’r ymgyrch wedi profi llwyddiant i’r graddau yma hebddyn nhw”. |
|









