Axiom Manufacturing Services
Dyfeisiodd Working Word PR ymgyrch â thri tharged, sef y cyfryngau sectoraidd, is-sectoraidd a rhanbarthol. Trwy gysylltu Axiom ag erthyglau nodwedd ar faterion sectoraidd allweddol a materion yn ymwneud â'r diwydiant ehangach, fe sicrhaodd y tîm cysylltiadau cyhoeddus lif rheolaidd o sylw golygyddol o safon a adeiladodd ar enw da Axiom fel arbenigwr ym maes gweithgynhyrchu ar gontract ac fel cyflogwr o ansawdd uchel.
Hefyd, gwnaeth y tîm baratoi a dosbarthu ffeithlen yn cyflwyno'r cwmni i newyddiadurwyr mewn sectorau marchnad ‘newydd'. Yn sgil hyn, cynhaliwyd sesiynau briffio uniongyrchol gyda'r newyddiadurwyr hyn, ac adeiladwyd perthnasoedd gweithio cryf â nhw. Mae'r newyddiadurwyr hyn nawr yn cysylltu â'r tîm cysylltiadau cyhoeddus yn rheolaidd i gael sylwadau arbenigol ar faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant.
Mae newyddiadurwyr allweddol hefyd wedi'u gwahodd i ymweld â ffatri weithgynhyrchu Axiom yn Ne Cymru i gael teithiau ymchwiliol o'i hamgylch. O ganlyniad i hyn, mae cyfweliadau helaeth â'r rheolwr gyfarwyddwr a staff allweddol y cwmni wedi'u cyhoeddi.
Mae Axiom hefyd i'w weld yn rheolaidd yn y cyfryngau rhanbarthol a lleol, ar sail ei rôl fel busnes allweddol yng Nghymru a'i ymwneud â mentrau cymunedol (gan gynnwys addysg-diwydiant). Mae'n cael ei ddyfynnu'n rheolaidd fel sylwebydd ar weithgynhyrchu yn y rhanbarth, ac fel model rôl o arfer da ym maes cysylltiadau cymunedol.
Meddai Jacqui Malpass, rheolwr marchnata ar gyfer Axiom Manufacturing Services:
"Mae Working Word PR wedi gweithio mewn partneriaeth agos ag Axiom i lwyddo i sicrhau sylw yn y cyfryngau mewn cyhoeddiadau targed allweddol. Rhoeson ni briff penodol iddyn nhw gynyddu ein proffil mewn cyhoeddiadau penodol o'r wasg fasnach ddiwydiannol i'n helpu ni i dyfu ein busnes, boed yn ein marchnadoedd presennol neu mewn marchnadoedd newydd. Maen nhw wedi cyflawni hyn yn y ddau achos, gyda pheth o'r sylw'n arwain at ymholiadau uniongyrchol."
"Ar ben hyn, mae Working Word wedi ein helpu ni i gynyddu ein proffil fel gwneuthurwr ac fel cyflogwr o ddewis yn y wasg fusnes leol Gymreig. Bellach, mae gennym ni enw cadarn fel busnes Cymreig llwyddiannus sy'n gweithredu ar lefel genedlaethol. Mae Working Word yn broffesiynol ac yn ymatebol, ac mae'n bleser gweithio gyda nhw."








