Addysgu’r gymuned fusnes yng Nghymru ynghylch e-Drosedd
BrîffMae trosedd gyfrifiadurol wedi dod yn broblem fwy difrifol i awdurdodau byd-eang na masnach gyffuriau. Yng Nghymru, mae e-Drosedd yn costio o ddeutu £294 miliwn y flwyddyn i gwmnïau. Er mwyn trechu hyn mae partneriaeth e-Drosedd Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, wedi ei ymrwymo i arfogi cwmnïau er mwyn iddynt eu hamddiffyn ei hunain rhag pob agwedd o drosedd ar-lein. Uchafbwynt y gwaith yw’r Gynhadledd flynyddol, ac fe gynhaliwyd y bumed ym mis Hydref 2009. Cyflogwyd Working Word ym mis Ebrill 2009. Cynyddu ymwybyddiaeth o brosiect e-Drosedd Cymru a chreu enw yn y cyfryngau yn barod ar gyfer y gynhadledd, gan ddenu o leiaf 350 o gynrychiolwyr, oedd y brîff. GweithrediadauI roi ysgogiad cychwynnol cofiadwy i’r ymgyrch, fe chwaraewyd tric ar-lein wedi’i anelu at gynulleidfaoedd allweddol ac at y cyfryngau gyda dydd ffŵl Ebrill yn fachyn. Mewn neges e-bost digymell at fâs data o gannoedd o gwmnïau a newyddiadurwyr a fyddai’n cael eu targedu yn ystod yr ymgyrch, rhoddwyd dolen at gêm ar-lein ‘Welsh Space Invaders’. Tywysai’r ddolen y gynulleidfa at gêm gyfrifiadurol ‘retro’ a’r nod fyddai iddynt drechu bodau estron a oedd yn dynesu rhag ymosod ar lefydd enwog yng Nghymru. Wedi cyfnod byr byddai llong ofod twyllodrus yn lladd y chwaraewr. Yna, byddai neges yn ymddangos yn dweud nad yw e-droseddwyr, un union fel bodau estron, yn chwarae yn ôl y rheolau, gyda chais i bobl weithredu trwy ymweld â gwefan e-Drosedd Cymru. Llwyddodd stori’r tric i ddenu sylw’r wasg fusnes allweddol a dargedwyd a chreodd sïon ar Twitter. Yn dilyn y lansiad, cyfunwyd ymgyrch yn y cyfryngau gydag ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio Twitter a Linked-In, sy’n fwy ar gyfer busnesau, i ledaenu negeseuon yr ymgyrch ymhellach. Sicrhawyd colofnau’n gyson yn y cyfryngau er mwyn cynnig llwyfan i swyddogion yr heddlu i drosglwyddo negeseuon allweddol. Ymatebodd y tîm i ddigwyddiadau yn y newyddion, gan ddefnyddio bachau megis marwolaeth drist Patrick Swayze, i roi gogwydd Cymreig ar broblem fyd-eang, yn ogystal â chyhoeddi datganiadau gofalus wedi’u targedu. Trefnwyd cyfweliad ar The One Show, BBC, yn ymdrin â thwyll ar eBay gyda Tony Neate, sy’n aelod o grŵp llywio a Phennaeth Get Safe Online, sydd dan oruchwyliaeth y Swyddfa Gartref. Cyd-weithiodd WWPR gyda swyddogion yr heddlu i adnabod cwmnïau oedd wedi dioddef e-Droseddu ac yr oedd ganddynt stori bositif i’w hadrodd am y gefnogaeth a gawsant gan e-Drosedd Cymru. Daeth storïau go iawn ag elfen “fe all hyn ddigwydd i chi” i’r ymgyrch wnaeth ysgogi pobl i gofrestru i fynychu’r Gynhadledd. CanlyniadauCanfu arolwg o fusnesau yng Nghymru ym mis Awst 2009 fod 19% o bobl yn ymwybodol o e-Drosedd Cymru, cynnydd o 10% ar y flwyddyn gynt. Canfu’r arolwg canlynol ym mis Gorffennaf 2010 fod y ffigwr wedi cynyddu 5% i 24%. Roedd dros 68% o sylw’r wasg cyn y Gynhadledd yn cyfeirio at wefan e-Drosedd Cymru, gan ysgogi busnesau i gofrestru. Denwyd 463 o gyfranwyr i Gynhadledd e-Drosedd Cymru, gan guro’r nod gwreiddiol. Llwyddwyd i gael sylw ar 120 achlysur - 60 o erthyglau print, 51 ar-lein a 9 darllediad. Cynhyrchodd sylw mewn print werth PR o dros £320,000, elw o ddeg i un ar fuddsoddiad, a thrwy sylw’r cyfryngau cafwyd dros 12 miliwn o gyfleoedd i weld a chlywed y negeseuon. Peidiwch â chymryd ein gair ni…Katherine Hibbert, Rheolwr Prosiect e-Drosedd: “Mae tîm Working Word wedi ein galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd eang trwy’r cyfryngau, nid yn unig yn y wasg draddodiadol ond hefyd yn y cyfryngau ar-lein sy’n hanfodol os am gysylltu â’n cynulleidfa darged. Cafodd Cynhadledd e-Drosedd Cymru yn 2009, pan oedd yn ei bumed flwyddyn, fwy o sylw gan y cyfryngau nag erioed o’r blaen gan sicrhau mai’r Gynhadledd yw digwyddiad atal e-Drosedd mwyaf Ewrop sy’n canolbwyntio ar SMEs. Mae gwaith caled tîm Working Word yn sicrhau bod Cymru’n parhau i gael ei chydnabod fel rhanbarth sy’n rhagori mewn atal e-Drosedd.” |
|








