Amdanom Ni
Y newyddion diweddaraf

Amdanom ni

Ffurfiwyd Working Word Public Relations fis Mai 1999, ac yn ystod y degawd diwethaf mae wedi tyfu i ddod yn un o'r timau cysylltiadau cyhoeddus ymroddedig mwyaf yng Nghaerdydd ac yng Nghymru gyfan.

The Working Word PR TeamMae ein tîm proffesiynol â'i sail yng nghanol dinas Caerdydd, lle gallwn ni helpu cleientiaid ledled Cymru i gynyddu eu henw da a chyfleu eu negeseuon allweddol i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn y DU.
Mae'r tîm hwn â'i gymwysterau uchel yn cynnwys ymarferwyr profiadol y mae eu sgiliau'n rhychwantu amrywiaeth eang o sectorau'r farchnad.

Mae gennym ni brofiad penodol o wasanaethu sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y byd gweithgynhyrchu, gwasanaethau busnes proffesiynol a'r maes amgylcheddol.

Mae'r tîm wedi ennill llawer o wobrau am ei waith dros y degawd diwethaf, ac yn 2008 fe'i henwyd yn Ymgynghoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Eithriadol y Flwyddyn yng Ngwobrau PRide CIPR Cymru.
Rydyn ni'n asiantaeth ddwyieithog sy'n gallu cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.