Ydych chi eisiau cyfathrebiadau sy’n gweithio?
Mae Working Word yn asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebiadau marchnata blaenllaw sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd.
Mae ein tîm gwobrwyedig o staff PR a marchnata proffesiynol yn cael canlyniadau eithriadol ar gyfer cleientiaid ym meysydd gweithgynhyrchu, lletygarwch, gwasanaethau, iechyd a gofal, mân-werthu, a sefydliadau nid-am-elw yn ogystal ag o fewn y Llywodraeth ac asiantaethau cyhoeddus.
Rydym yn darparu gwasanaeth gyfathrebu gwirioneddol gyflawn sy’n cwmpasu cysylltiadau cyfryngau, PR ar-lein, marchnata, digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol a dylunio.
Trwy gyfuno sgiliau strategaethol, creadigrwydd, profiad, a gwaith caled rydym yn helpu creu a chynnal enw da a chysylltiadau sy’n sicrhau bod ein cleientiaid yn cyflawni eu hamcanion busnes allweddol.
Rydym yn gwneud yn siŵr eu bod, am ein bod yn llwyr ymroddedig i gyfathrebu sydd wir yn gweithio.
Latest News
03/08/11Ffigurau newydd yn dangos fod bron i hanner Prifathrawon Cymru’n siarad Cymraeg
Ynghanol miri wythnos yr Eisteddfod, mae ffigurau newydd yn dangos fod y Gymraeg yn ffynnu ar y brig yn ysgolion y genedl. mwy
01/08/11Creu hanes yr haf hwn gyda Casgliad y Werin Cymru
Gyda gwyliau’r haf ar eu hanterth, mae gwefan arbennig ar gyfer hanes Cymru yn galw ar bobl i rannu eu straeon gwyliau am gyrchfannau poblogaidd ym mhob cwr o’r wlad.mwy










